The Association for Welsh Writing in English
  • Home
    • The Association
    • About >
      • Administration
      • History
      • Texts
      • Privacy Policy
      • Cookies
  • Conferences
    • Imagining History / Dychmygu Hanes
    • Conference Archive
  • Journal
  • Bibliography
  • Keep in Touch
    • Sign Up to Our Email List
    • Contact Us
Picture

English

Dychmygu Hanes: Cymru mewn ffuglen a ffaith / Imagining History: Wales in fiction and fact

​Cynhadledd 12-13 Tachwedd 2021
Ar-lein
(a gynhelir ar-lein gan Brifysgol De Cymru)
gydag arddangosfa yn Oriel y Bont, Prifysgol De Cymru
Picture

Mae hanesion wedi’u dychmygu ar ffurf ffuglen hanesyddol, ffilmiau neu raglenni teledu yn aml wrth galon sut yr ydym yn meddwl am ein hunaniaethau cenedlaethol a phersonol. Mae naratifau hanesyddol yn seiliedig ar ‘ffaith’ bob amser wedi ffurfio sut yr ydym yn meddwl am ein cenedl, ein cymunedau a ni’n hunain ond maent droeon yn unochrog, yn anghyflawn neu wedi’u hystumio gan fuddiannau breintiedig neilltuol.  Mae gweithiau ffuglennol hanesyddol yn caniatáu i ni ail-ddychmygu’r naratifau hyn, llenwi’r bylchau a’r mannau mud yn yr hanes sydd wedi’i gofnodi. Gallant ein cynorthwyo i ddychmygu hanesion amgen yn ogystal â dyfodol newydd.

​Bydd y gynhadledd hon yn archwilio'r ffyrdd y mae ffuglen o'r fath yn bodoli mewn tensiwn cymhleth ac weithiau dadleuol gyda hanesyddiaethau prif ffrwd.

​Prif Baneli

  • Y Castell Siwgr: Cymru a chaethwasiaeth  trawsiwerydd – Mae nofel Angharad Tomos Y Castell Siwgr yn dweud hanes y cysylltiadau trawsiwerydd rhwng Castell y Penrhyn a’r planhigfeydd yn Jamaica. I drafod y nofel ac i archwilio materion ehangach caethwasiaeth bydd yr Athro Chris Evans (Prifysgol De Cymru), Audrey West a Marian Gwyn (cadeirydd, Race Council Cymru) yn ymuno ag Angharad. At hyn ceir darlleniad o’r nofel gan Mirain Iwerydd.
  • Y Cymry yn yr Wcráin: Ffaith a Ffuglen - hanes John Hughes o Ferthyr a’r ddinas a sefydlodd yn yr Wcráin ac a ysbrydolodd y gyfres deledu dair rhan Hughesovka and the New Russia a thrioleg Catrin Collier, The Tsar's Dragons. Bydd Dr James Phillips (Llafur) yn siarad â’r nofelydd Catrin Collier a Colin Thomas, cyfarwyddwr y gyfres deledu.
  • Panel Raymond Williams: Troi Hanes yn Ffuglen -  bydd gwaith dylanwadol y damcaniaethwr a’r nofelydd hanesyddol Raymond Williams, awdur The People of the Black Mountains, yn cael ei drafod gan yr hanesydd a’r awdur Rhian E. Jones, bywgraffydd Williams, yr hanesydd a’r nofelydd yr Athro Dai Smith, a’r Athro Daniel Williams (Prifysgol Abertawe). Cadeirir gan yr Athro Diana Wallace (Prifysgol De Cymru).  
  • How Green Was My Valley (BBC, 1975-6) – ymunwch â ni am ddangosiad o bennod o addasiad y BBC o nofel Richard Llewelyn, 1939, wedi ei gosod yn oes Victoria (trwy ganiatâd caredig y BBC); gyda chyflwyniad gan yr actores Sue Jones Davies (a chwaraeodd ran Angharad Morgan yng nghyfres y BBC) a thrafodaeth gan yr hanesydd yr Athro  Angela John. Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal mewn person yng Nghlwb y Bont, Pontypridd  a rhaid archebu lle ymlaen llaw trwy ddolen Eventbrite. Cyfyngir nifer y tocynnau i 40 o bobl, i gadw at reoliadau diogelwch Covid. Cadarnheir yn nes ymlaen a gaiff y sesiwn ei ffrydio ar-lein neu yn fyw.
DIWEDDARIAD: Oherwydd pryderon am y newidiadau sydd ar y gweill yn y cyfyngiadau Covid, ni fydd y digwyddiad hwn yn digwydd yn bersonol mwyach. Bydd nawr yn digwydd ar-lein. Os ydych wedi archebu ar gyfer y brif gynhadledd, bydd dolen ar gyfer y digwyddiad hwn yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost felly nid oes angen archebu ar gyfer y digwyddiad ar wahân.

Trefnwyr a Noddwyr

Trefnwyr: Brifysgol De Cymru, Cymdeithas Llên Saesneg Cymru, Cymdeithas Hanes Pobl Cymru, Archif Menywod Cymru, a Amgueddfa Pontypridd.
Noddwyr: Cefnogir y digwyddiad yn garedig gan Brifysgol De Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Archif Menywod Cymru, a Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru. ​
Picture
Archebwch drwy Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/198121997227
​Gweler y rhaglen ddrafft yma:
imagining_history_programme.pdf
File Size: 184 kb
File Type: pdf
Download File

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Yr Athro Diana Wallace: [email protected] a/neu Dr James Phillips: [email protected]

Arddangosfa: Dychmygu Hanes: Cymru mewn ffuglen a ffaith/ Imagining History: History in Fiction and Fact yn Oriel y Bont, Campws Trefforest, Prifysgol De Cymru

Ar agor bob dydd yn ystod yr wythnos o ddydd Llun 1 Tachwedd i ddydd Gwener 17 Rhagfyr 2021.

Mae'r digwyddiad agoriadol ar ddydd Gwener 12 Tachwedd 6.30 – 8.30. Mae lleoedd wedi'u cyfyngu i gydymffurfio â rheoliadau diogelwch Covid - archebwch drwy'r ddolen Eventbrite os ydych yn dymuno bod yn bresennol.

Mae'r paentiadau, gosodiadau, ffotograffau, cerfluniau, straeon a ffilmiau a arddangosir, a ddewiswyd o Gasgliad Amgueddfa Gwaith Celf PDC, yn ogystal â gwaith ar fenthyg o gasgliadau, gan artistiaid neu awduron eraill, i gyd i raddau mwy neu lai yn annibynadwy. Maent yn datgelu'r broses 'o greu ffuglen' yr ydym yn ei defnyddio naill ai i adlewyrchu neu i ailosod hunaniaethau cenedlaethol a phersonol mewn ymgais i gael ein hanesion wedi eu hadrodd neu eu hail-adrodd.
 
Mae'r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan Susan Adams, Iwan Bala, Judith Beecher, Elizabeth Bridge, Jack Crabtree, Morag Colquhoun, Ivor Davies, Ken Elias, Geraint Evans, Tom Goddard, Rachel Jones, Naomi Leake, Kate Milsom, Paul Reas, Andre Stitt, Daniel Trevidy, Dawn Woolley ac eraill. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Oriel y Bont.

Galwad am Bapurau - Mae'r Alwad am Bapurau wedi dod i ben

Mae hanesion wedi’u dychmygu ar ffurf ffuglen hanesyddol, ffilmiau neu raglenni teledu yn aml wrth galon sut yr ydym yn meddwl am ein hunaniaethau cenedlaethol a phersonol.* Mae naratifau hanesyddol yn seiliedig ar ‘ffaith’ bob amser wedi ffurfio sut yr ydym yn meddwl am ein cenedl, ein cymunedau a ni’n hunain ond maent droeon yn unochrog, yn anghyflawn neu wedi’u hystumio gan fuddiannau breintiedig neilltuol.  Mae gweithiau ffuglennol hanesyddol yn caniatáu i ni ail-ddychmygu’r naratifau hyn, llenwi’r bylchau a’r mannau mud yn yr hanes sydd wedi’i gofnodi. Gallant ein cynorthwyo i ddychmygu hanesion amgen yn ogystal â dyfodol newydd.

Mae awduron fel Raymond Williams, Elaine Morgan, Angharad Price, Catrin Collier, R Cyril Hughes, Owen Sheers, Hilda Vaughan, Christopher Meredith, William Owen Roberts, Gwyn Thomas, Stevie Davies, Gwynn ap Gwilym, Bruce Chatwin, Margiad Evans, Marion Eames, Jerry Hunter, Siân James a T Llew Jones wedi rhoi i ni weithiau ffuglennol dylanwadol iawn am y gorffennol, a rhai hynod boblogaidd yn fynych. Mae rhai gweithiau ffuglennol yn bodoli mewn tensiwn cymhleth, a dadleuol weithiau, gyda hanesyddiaeth prif ffrwd.

Mae trefnwyr y gynhadledd yn gwahodd cyfraniadau ar unrhyw bwnc sy’n ymwneud â dychmygu hanesion Cymru. Gwahoddwn gyfraniadau ar draws disgyblaethau, cyfnodau hanesyddol, ac ymdriniaethau methodolegol.  Gall pynciau gynnwys (ond nis cyfyngir i hyn o gwbl):
  • Ffuglen hanesyddol a’r ‘genedl a ddychmygir’
  • Hanesion lleol/byd-eang
  • Hil/rhyw/dosbarth a hanesion wedi’u dychmygu
  • Dychmygu hanesion amgen
  • Ffilm/teledu hanesyddol
  • Diogelu’r gorffennol
  • Amgueddfeydd/archifau a ffuglen/ffilm hanesyddol
  • Iaith a hanesion wedi’u dychmygu
Dylid cyflwyno crynodeb 250 gair ar gyfer papurau ugain munud ynghyd â bywgraffiad byr (dwy frawddeg) i [email protected] erbyn 1 Gorffennaf 2021. 

​* ​Ar gyfer y gynhadledd hon awgrymwn fel man cychwyn ddiffiniad o ‘ffuglen hanesyddol’ fel testun (e.e. nofel/ffilm/rhaglen deledu) sydd wedi ei osod gryn dipyn o amser cyn iddo gael ei gynhyrchu, o leiaf 50-60 mlynedd gan amlaf, neu cyn geni’r awdur.

Ein bwriad yw peidio â chyfyngu’r gynhadledd i gynulleidfa academaidd ond i annog cyfranwyr i feddwl yn nhermau darlithoedd a fydd yn ymestyn allan i gynulleidfa ehangach. Croesewir papurau yn Saesneg ac yn Gymraeg. Croesewir cynigion ar gyfer paneli o dri phapur ugain munud a phapurau trawsddisgyblaethol hefyd.

Oherwydd y pandemig rydym yn ystyried dulliau amrywiol o gyflwyno’r gynhadledd. Gall hyn fod yn gynhadledd wyneb yn wyneb draddodiadol; cynhadledd gymysg wyneb yn wyneb / yn rhithiol; neu yn gynhadledd rithiol.

​
Trefnwyr: Prifysgol De Cymru; Cymdeithas Llên Saesneg Cymru; Llafur, Archif Menywod Cymru/Women’s Archive Wales ac Amgueddfa Pontypridd.

The Association for Welsh Writing in English

About
Contact
Privacy Policy
Cookies
© 2022 AWWE and contributors/authors
Picture